Cyrsiau Nant B.H
Cyrsiau
Pan fydd taliad wedi’i wneud byddwch yn cael cadarnhad o’r archeb gan Nant B.H. Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol neu gyflwr arall ac unrhyw ofynion dietegol, cysylltwch â’r ganolfan ar 01492 640735 neu anfonwch e-bost at nwoes@conwy.gov.uk. Rydym yn cadw’r hawl i ganslo neu gwtogi cwrs neu weithgaredd ar unrhyw adeg. Os byddwn yn canslo neu gwtogi oherwydd na allwn ddarparu’r cwrs neu weithgaredd, byddwn yn ad-dalu’r ffi ar gyfer y diwrnod hwnnw neu ran o’r diwrnod hwnnw. Gall cyrsiau preswyl ddisgwyl derbyn anfoneb Mân Ddyledwyr ar ôl y dyddiad, felly nid oes angen i ysgolion dalu drwy’r dewis ar-lein. Gall bobl sy’n Llogi Ystafell Ddosbarth hefyd ddisgwyl anfonebau ar ôl y cyfnod llogi felly eto nid oes angen talu drwy'r dewis ar-lein. I wneud taliad gyda cherdyn ar gyfer anfonebau Mân Ddyledwyr e.e. ar gyfer unrhyw un o’r dewisiadau uchod, defnyddiwch y dewis amrywiol anfonebau.
Mae seren (*) yn dynodi maes gofynnol