Datganiad hygyrchedd gwe

Datganiad hygyrchedd ar gyfer CivicaPay eStore2

Mae'r datganiad hygyrchedd yma'n berthnasol i CivicaPay eStore2

Mae'r wefan yma'n cael ei rhedeg gan Civica UK Limited ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf . Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylai bod modd i chi wneud y canlynol:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo hyd at 400% heb i ymylon y testun ddiflannu o'r sgrin
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

AbilityNet - mae gyda’r cwmni gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gyda chi anabledd

Pa mor hygyrch yw'r wefan yma?

Nod y wefan yw cydymffurfio â'r Safonau hygyrchedd wedi'u pennu gan Gonsortiwm y We Fyd Eang (W3C) a chanllawiau hygyrchedd eraill. Mae'r wefan hon wedi'i phrofi yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 Safon A ac AA. Mae menter hygyrchedd y we yn hyrwyddo defnyddioldeb a hygyrchedd i bobl ag anableddau ac mae hefyd yn hyrwyddo arferion da ar y we er budd pob defnyddiwr. Mae'r holl dudalennau wedi'u dylunio yn unol â'r Safonau i fod yn gwbl hygyrch ac maen nhw'n cwmpasu'r holl anableddau sy'n effeithio ar fynediad i'r wefan. 

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan yma mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • Ebostiwch : GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk
  • Ffoniwch : 01443 425005
  • Ffôn Destun (Llinell Cymorth Synhwyrau): 01443 425015

Bydd angen i ni wybod, cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys, eich enw, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post, y fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddwn ni'n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan yma

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan yma. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen yma neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

E-bost: GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk , Ffôn: 01443 425005 neu Ffôn Destun (Llinell Cymorth Synhwyrau): 01443 425015

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych chi'n anhapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb .

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae Civica wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA.

Mae Civica wedi darparu'r cynnyrch eStore i sawl awdurdod lleol a sefydliadau eraill yn y DU. Mae modd addasu'r cynnyrch i gyd-fynd â brand yr awdurdod lleol neu'r sefydliad. Mae'r cynnyrch sylfaenol wedi'i archwilio yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 AA. Felly cysylltwch â'r awdurdod neu'r sefydliad lleol perthnasol trwy eu gwefan ar gyfer unrhyw ddiffygion eraill sydd heb eu rhestru isod, megis cynnwys y wefan, brandio, lliw a theipograffeg, neu unrhyw beth sy'n anodd ei ganfod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Ddim yn berthnasol

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

Ddim yn berthnasol .

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol

Paratoi'r datganiad hygyrchedd yma

Cafodd y datganiad yma'i baratoi ar 11 Tachwedd 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2020.

Cafodd y wefan yma ei phrofi ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Civica UK Ltd.

Fe ddefnyddion ni'r Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiad Hygyrchedd Gwefannau i benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi.

Gwnaethon ni'n siŵr ein bod ni'n archwilio amrywiaeth o gydrannau ar draws ein gwefan a oedd yn cynnwys prif deithiau defnyddwyr y system. Gwnaethon ni brofi'r cydrannau a'r tudalennau yma'n weithredol gydag amrywiaeth o ddulliau, profi awtomatig, gwerthuso dynol a defnyddio technoleg gynorthwyol.