Gwaredu ar Eitemau Swmpus y Cartref (1 i 8 Eitem)
Strydoedd o Fri
Mae gwastraff swmpus yn cyfeirio at eitemau sy'n rhy fawr i’w casglu gyda’r sbwriel arferol. Gall gynnwys eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chyfarpar garddio.
Byddwn yn casglu:
• DODREFN (e.e. byrddau, cadeiriau, switiau, gwelyau, cabinetau, desgiau, cypyrddau llyfrau, cypyrddau dillad)
• NWYDDAU GWYN (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau)
• CYFARPAR GARDDIO (e.e. peiriannau torri gwair bach, offer garddio, byrddau a chadeiriau gardd, barbeciws, beics)
• CARPED (symiau bychain o garped ac isgarped (toriadau neu garpedi maint un ystafell yn unig)
• OFFER TRYDANOL AC ELECTRONIG (e.e. cyfrifiaduron, setiau teledu)
Nodwch wrth archebu os yw eich casgliad yn cynnwys eitemau trydanol.
Sicrhewch eich bod yn nodi’ch cyfeiriad yn gywir ar y dudalen nesaf.
Mae seren (*) yn dynodi maes gofynnol